Mae maint y fynwent (tua tair erw a hanner) ynghyd â'i siap hirgrwn yn nodweddiadol o'r llan, neu le caeëdig eglwysig. Gosodwyd yr heol sy'n rhedeg drwyddi fel un tyrpeg yn hwyr yn y 18fed ganrif.
Cynhaliwyd ffair Gwyl Barna yn y fynwent am ganrifoedd ar ddiwrnod Gwyl Barnabas (Mehefin 11eg). Ceir y cyfeiriad cyntaf ati ym 1291, ac fe'i chynhaliwyd hyd canol y 19eg ganrif.
Ar ochr ddeheuol y fynwent, o fewn y wal sy'n gyfochrog a Lôn y Llan, fe welir cilfach lle mae cwndid yn cludo dwr o darddell yn y fynwent ei hunan. Dyma'r allanfa o Ffynnon Teilo a leolir yn agos i ochr ddwyreiniol yr eglwys. Darparodd y ffynnon ddwfr i drigolion y dref am ganrifoedd, hyd nes iddi gael ei gorchuddio yng nghanol y 19eg ganrif. Mwy na thebyg ei bod hi'n darddiad gysegredig a ddefnyddiwyd fel bedyddfan o ddyddiau cynnar.
