Gweithgareddau'r Eglwys

Côr Plygain

Efallai mai ‘côr’ yw’r gair anghywir i ddisgrifio’r grŵp hwn. Does dim clyweliadau a dyw aelodau ddim yn proffesu bod ganddyn nhw leisiau rhagorol, mae’n griw o ffrindiau sy’n mwynhau canu carolau Plygain. Mae traddodiad y Plygain yn un unigryw Gymreig ac yn dyddio o'r 17eg ganrif.

St Teilo’s Plygain Group with Archdeacon Dorrien Davies Mae’r term ‘Plygain’ yn tarddu o’r Lladin ‘Puli Canto’ neu ‘Cock Crow’ gan fod y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal yn gynnar iawn fore Nadolig, unrhyw bryd rhwng tri a chwech o’r gloch. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan neu plygen. Cofnodir y gair gyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin mewn llawysgrifau Cymraeg cynnar yn y 13eg ganrif ("pader na pilgeint na gosber"). Mae’r carolau’n wahanol iawn i’r traddodiad carolau Nadolig Saesneg arferol gan fod pob carol Plygain yn cynnwys penillion ar Groeshoeliad ac Atgyfodiad Crist yn ogystal â’i eni. Yn wir, cyfeiriwyd atynt yn aml fel ‘Pregethau mewn Cân’. Y Plygain oedd yr unig wasanaeth yng nghalendr yr eglwys i’w gynnal gyda’r nos, gan fod cario canhwyllau a ffaglau i oleuo’r orymdaith at yr eglwys yn rhan o draddodiad y Plygain.

Mewn ardaloedd gwledig, byddai’r bobl leol yn ymgynnull mewn ffermdai lleol i wneud taffi triog o’r enw cyflaith cyn gwneud eu ffordd i’r eglwys. Yn 1774, yn Nyffryn Clwyd, cofnodir iddynt gynnau'r canhwyllau am ddau o'r gloch y bore a chanu a dawnsio i gerddoriaeth y delyn tan wasanaeth y wawr. Mewn trefi, neu ardaloedd mwy poblog, fel Dinbych-y-pysgod, byddai torfeydd yn dechrau’r noson gyda gorymdaith yng ngolau ffaglau, a byddai gwŷr ifanc y dref yn hebrwng yr offeiriad lleol o’i dŷ i’r eglwys tra roedd gweddill yr orymdaith yn canu ac yn chwythu cyrn buwch. Cofnodwyd digwyddiadau tebyg tua’r un pryd yn Nhalacharn a Llanfyllin.

Dirywiodd y traddodiad tua throad y 19eg ganrif er ei fod yn parhau i fod yn boblogaidd yng nghanolbarth Cymru. Yn ystod yr ugain mlynedd neu fwy diwethaf mae'r traddodiad wedi ei adfywio a chynhelir Plygeiniau ar draws Cymru o Ragfyr 1af hyd at Ŵyl Fair y Canhwyllau (2 Chwefror). Cynhelir Plygain Sant Teilo ar y Sul olaf ym mis Ionawr pan fydd grwpiau o bob rhan o Dde a Chanolbarth Cymru yn teithio i Landeilo i gymryd rhan. Dilynir y gwasanaeth gan swper yn neuadd yr eglwys. Yn ystod tymor y Plygain mae parti Teilo Sant yn teithio i eglwysi eraill i ganu yn eu gwasanaethau Plygain.

Brecwast y Dynion

Am 8.30 ar fore Sadwrn, yn draddodiadol ar y trydydd dydd Sadwrn o bob mis, mae gwŷr yr eglwys, ynghyd â ffrindiau, yn cyfarfod yn neuadd yr eglwys i fwynhau cymdeithas a brecwast gyda'i gilydd. Yn ystod misoedd y gaeaf mae brecwast traddodiadol wedi'i goginio yn cael ei weini tra yn yr haf mae'n frecwast cyfandirol o gigoedd oer, ffrwythau, rholiau a croissants fel arfer. O bryd i'w gilydd bydd siaradwr gwadd yn ymuno â'r dynion am frecwast ac yna'n rhoi cyflwyniad. Codir swm o £5 y person i dalu cost y cynhwysion.

Cinio’r Merched

Unwaith y mis ar ddydd Mercher mae merched yr eglwys yn cyfarfod am ginio yn neuadd yr eglwys. Cynhelir y cinio ar ôl y gwasanaeth 10.30. Mae'n ginio ysgafn o gawl, bara, caws a phwdin. Darperir y bwyd i gyd gan y merched a rhoddir y £3 a godir am y cinio i Tearfund, elusen Gristnogol sy’n partneru ag eglwysi mewn mwy na 50 o wledydd tlotaf y byd. Mae'n mynd i'r afael â thlodi trwy ddatblygu cynaliadwy, ymateb i drychinebau a herio anghyfiawnder. Yn ystod y cinio mae darlleniad o'r Beibl a gweddi. Mae croeso i unrhyw foneddigesau, boed yn aelodau o’r eglwys ai peidio.


Cymuned

Mae gan yr eglwys gysylltiadau cryf â’r gymuned, perthynas y mae’n awyddus i’w thyfu. Defnyddir cyfleusterau’r eglwys yn rheolaidd gan nifer o sefydliadau.

Gofalwyr plant cyn oed ysgol (COPS)

Ers dros 20 mlynedd mae’r eglwys wedi trefnu bore ar gyfer plant cyn oed ysgol a’u gwarchodwyr. Mae'r plant yn cael mwynhau chwarae, dan arolygaeth gyson staff yr eglwys a rhieni, gyda'r dewis ardderchog o deganau a ddarperir ac ymuno hefyd i ganu rhigymau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dim ond £2 y bore yw’r tâl fesul teulu sy’n cynnwys byrbryd ffrwythau iachus i’r plant a choffi a bisgedi i’r oedolion.

Bydd COPS yn ailgychwyn ym mis Medi 2022 ar foreau Llun o 9.30 - 11.30


Permaculture Tywi

Permaculture Tywi

Mae permaculture yn fframwaith arloesol ar gyfer creu ffyrdd cynaliadwy o fyw. Mae’n ddull ymarferol o ddatblygu systemau ecolegol gytûn, effeithlon a chynhyrchiol y gellir eu defnyddio gan unrhyw un, unrhyw le.

GWEITHGAREDDAU A DIGWYDDIADAU PERMACULTURE TYWI
Cyfnewid Hadau a Phlanhigions: Cyfnewid cynnyrch a phlanhigion
Cyrsiau: Cyrsiau Rhagarweiniol a Dylunio
Ailgylchu ac Ailddefnyddio a Lleihau Gwastraff: Grŵp Uwch-gylchu ffabrig i arbed gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi Rhwydweithio
Nosweithiau Cymdeithasol Rhannu Sgiliau Aelodau: Arddangosiadau, sgyrsiau a chyflwyniadau gan aelodaus
Gweithdai: Gweithdai ar bynciau penodol
Permablitzes: Gweithgorau yng ngerddi aelodau
Sgyrsiau: Siaradwyr Gwadd a Chyflwyniadau
Rhwydweithio: Nosweithiau Cymdeithasol
Rhannu a Thrwsio: Llyfrgell Pethau a Thrwsio
Ymweliadau Addysgol: Ymweliadau Grŵp a Theithiau

Mae’r grŵp yn cwrdd yn yr eglwys pob DYDD IAU 11.00yb - 4.00yp. Mae te a Choffi ar gael drwy'r dydd,


Band Tref Llandeilo

Band Tref Llandeilo

Sefydlwyd Band Tref Llandeilo yn 2012 dan arweiniad John Morgan. Ar hyn o bryd mae ganddo fwy na 30 o aelodau ac mae wedi sefydlu band datblygu ar gyfer dysgwyr newydd. Mae'r band yn chwarae amrywiaeth eang o gerddoriaeth o gerddoriaeth ffilm/sioe i Swing a chymysgeddau poblogaidd. Perfformiwyd cyngherddau yn Neuadd Ddinesig Llandeilo a hefyd yn y safle band Fictoraidd ym Mharc Penlan, Llandeilo. Mae’r band hefyd wedi cyfeilio i’r gynulleidfa yn eglwys Teilo Sant lle mae’n ymarfer bob nos Fercher am 7.30.


Cantorion Llandeilo Singers in concert in St Teilo’s church

Cantorion Llandeilo Singers

Mae Cantorion Llandeilo yn ymarfer ar nos Lun thwng 7.30-9.30 y.h. yn Eglwys Teilo Sant. Wedi’i sefydlu yn 1989 fel Cantorion Teilo Sant gydag Elwyn Jones fel eu cyfarwyddwr cerdd parhaodd y côr o dan arweiniad ymroddedig Richard Whitehead am ddeng mlynedd tan 2014, pan gymerodd Gordon Kilby yr awenau ac ailenwyd y côr yn Cantorion Llandeilo Singers. Gordon bellach yw Llywydd a Chyfarwyddwr Artistig. Ym mis Medi 2021 daeth Colin New yn Gyfarwyddwr Cerdd ac Arweinydd newydd.

Website: www.llandeilosingers.wixsite.com/llandeilo-singers


Artistes in Llandeilo Music Festival relax after rehearsal

Gŵyl Gerdd Llandeilo

Ers 2001 mae eglwys Sant Teilo Llandeilo wedi cynnal Gŵyl Gerdd Llandeilo am wythnos ym mis Gorffennaf. Mae’r Ŵyl wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac wedi denu cerddorion byd-enwog, artistiaid fel Emma Kirkby (a ddywedodd mai acwsteg yr eglwys yw’r gorau y mae hi wedi dod ar ei draws y tu allan i neuadd gyngerdd) Syr Thomas Allen, Catrin Finch a Stephen Isserlis, i enwi ond ychydig. Mae ei henw da wedi lledaenu ymhell ac agos a daw cynulleidfaoedd o Sir Gaerfyrddin a thu hwnt. Yn ogystal â denu perfformwyr o’r radd flaenaf i Landeilo, trwy ei chyngherddau coffi a chinio mae’r ŵyl wedi rhoi llwyfan i gerddorion lleol dawnus. Mae trefnwyr yr ŵyl, fel rhan o’i rhaglen addysg gerddorol, yn trefnu i artistiaid sy’n perfformio yn yr ŵyl, megis The Vidar Guitar Quartet a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ymweld ag ysgolion lleol i gynnal dosbarthiadau meistr. Mae'r ysbrydoliaeth a ddarperir gan y sesiynau hyn a'r brwdfrydedd y maent yn ei dderbyn gan y disgyblion yn rhyfeddol.

Website: www.llandeilomusicfestival.org.uk


Bouncy castle in the church

Parti yn y Parc

Pan oedd y Parti yn y Parc ar 4ydd Mehefin 2022 mewn perygl o gael ei ganslo oherwydd tywydd garw camodd yr eglwys i'r adwy a chynnig defnydd o'i chyfleusterau. Golygfa anarferol oedd gweld castell neidio yn y gangell, Band y Dref yng nghapel y Fonesig a stondin fyrgyrs a stociau hen ffasiwn yn y fynwent lle gallai plant daflu sbyngau gwlyb at y ‘carcharor’ druan. Roedd yn llai anarferol gweld stondinau amrywiol a the a chacennau yn cael eu gweini yn y neuadd. Aeth y digwyddiad, felly, yn ei flaen, os nad fel y cynlluniwyd, ond barnwyd gan bawb ei fod yn llwyddiant mawr. Mae pwyllgor newydd yr eglwys yn awyddus i ymestyn ei gysylltiadau â’r gymuned ac roedd hyn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni. Mae’r eglwys yn agored i bawb ac mae pawb yn sicr o’r croeso cynhesaf.


School performance in the church

Ysgolion Lleol

Mae aelodau'r eglwys yn ymweld â'r ysgol i rannu mewn gwasanaethau ac mae ysgolion lleol yn defnyddio'r eglwys ar gyfer gwasanaethau arbennig. Yn ystod Covid recordiodd Ysgol Bro Dinefwr ddisgyblion yn perfformio yn yr eglwys i’w ffrydio i rieni.

Cymerodd disgyblion Ysgol,Gymraeg Teilo Sant, Ysgol Gynradd Llandeilo ac Ysgol Bro Dinefwr ran yng Ngwasanaeth Dinesig y Maer ym mis Mai. Ym mis Medi ymunodd plant Cyfnod Allweddol 2 Ysgol Ffairfach â phlant Teilo Sant a Llandeilo mewn gwasanaeth diolchgarewch dan ofal y Parch Jonathan Parker. Roedd yn dda gweld yr eglwys yn llawn plant a chroesawodd yr ysgolion y cyfle i gyfarfod â’i gilydd. Edrychwn ymlaen at groesawu’r ysgolion eto yn y dyfodol agos,


Costiau Hurio Cyfleusterau

Mae’r cyfleusterau’r eglwys ar gael i’w hurio. Mae’r prisiau fel a ganlyn:

Church facilities hire rates, June 2022

Mehefin 2022

I fwcio cysylltwch â Mike Taylor ar: taylorbeddoesdrive@hotmail.co.uk