Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Fawr

Rhan o Ardal Weinidogaeth Leol Bro Dinefwr

Datganiad o genhadaeth
Credwn, fel yr eglwys yn y genhedlaeth hon sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yng Nghristnogaeth Geltaidd, ein bod yn cael ein galw i orchwylion adnewyddiad ysbrydol ymhlith pobl Dduw, a chyhoeddi Newyddion Da Iesu Grist yn Llandeilo a dyffryn Tywi. Cysegrwn ein hunain i’r Efengyl, i gymdeithas, gweddi, addoliad a thystiolaeth ac i wasanaeth eraill yn ein tref.

Mae Croeso cynnes

Compassion talk

Mae Croeso cynnes yn eich disgwyl yma
Mae'r Eglwys hon yn Eglwys gynhwysol. Credwn mewn Eglwys sy'n croesawu ac yn gwasanaethu pobl un enw Iesu Grist.

Efengylau Llandeilo

Llandeilo Fawr Gospels

Amseroedd Agor Pasg – Medi
Dydd Llun – Dydd Gwener 11.00yb – 3.00yp
Mae llyfr Efengylau Llandeilo, llawysgrif Feiblaidd wedi’i goleuo’n hyfryd, yn gampwaith o gynhyrchu llyfrau o’r 8fed ganrif

Hanes yr Eglwys

Exterior view of Llandeilo Church

Mae hanes Llandeilo fel canolfan Gristnogol hysbys yn dyddio o'r chweched ganrif. Yn ystod y ganrif honno, tua’r diwedd mae’n debyg, y dewisodd un o brif ffigurau Cristnogol hanes Cymru, Sant Teilo, ei gwneud yn ganolfan iddo ac mae wedi’i gladdu yma.


Gwasanaethau yn Llandeilo Fawr, Maesteilo a Taliaris

Sul Cyntaf y mis
9.30 Boreol Weddi St John’s Maesteilo
9.30 Boreol Weddi Teilo Sant
11.00 Offeren Teilo Sant

Ail Sul y mis
8.00 1984 Communion Teilo Sant
9.30 Offeren Holy Trinity Taliaris
11.00 Boreol Weddi Teilo Sant
18.00 Evening Prayer Teilo Sant

Trydydd Sul y mis
9.30 Offeren St John’s Maesteilo
9.30 Boreol Weddi Teilo Sant
11.00 Offeren Teilo Sant

Perdwerydd Sul y mis
9.30 Boreol Weddi Holy Trinity Taliaris
9.30 Cymun Bendigaid Teilo Sant
11.00 Holy Communion (Sung) Teilo Sant
18.00 Compline Teilo Sant

Pumed Sul y mis
11.00 Offeren Teilo Sant

Pob bore dydd Mercher
10.30 Offeren Teilo Sant

Mae Croeso Cynnes yn eich disgwyl yma
Gwerthiant llyfrau

Gwerthiant Llyfrau (ail law)

26 – 28 Ebrill 2024
I'w gynnal yn Hen Siop Gigydd Smiffy, Llandeilo. Yn ystod Gŵyl Lên Llandeilo
Siop ar Agor 10 - 4
Digonedd o fargeinion
Yr elw at Eglwys Teilo Sant

Church Tower, Tŵr yr Eglwys

Tŵr yr Eglwys

Efallai eich bod wedi sylwi nad yw clychau’r eglwys yn canu ar hyn o bryd. Mae hyn oherwydd angen brys i atgyweirio’r fframwaith sy’n dal y clychau yn eu lle. Mae’r clychau mewn perygl o ddisgyn trwy’r llawr i mewn i arddangosfa’r Efengylau islaw! Cwblhawyd gwaith dros dro er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd.

Nawr, rydym yn ceisio codi arian er mwyn cwblhau’r atgyweirio a thrwsio’r cloc yn y tŵr yn ogystal, ond mae angen eich cefnogaeth arnom ni. Mae angen i ni wybod pa mor bwysig yw hi i’r gymuned bod y clychau’r a’r cloc yn gweithio, ac yn wir pa mor bwysig yw hi bod yr eglwys yn parhau fel lle sy’n ffynnu. Efallai byddwn yn cwblhau arolwg cyn bo hir, ond yn y cyfamser, gadewch i ni wybod beth yw eich barn am y tŵr, y clychau, y cloc ac yn wir, yr eglwys ei hunan!

Make a donation

Cysylltwch â Ni


Costiau Hurio Cyfleusterau
Mae’r cyfleusterau’r eglwys ar gael i’w hurio. Mae’r prisiau fel a ganlyn:

Facebook
I gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion am yr hyn sy'n digwydd:

<